19. A llefara wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, A leddaist ti, ac a feddiennaist hefyd? Llefara hefyd wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Yn y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth, y llyf cŵn dy waed dithau hefyd.
20. A dywedodd Ahab wrth Eleias, A gefaist ti fi, O fy ngelyn? Dywedodd yntau, Cefais: oblegid i ti ymwerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.
21. Wele fi yn dwyn drwg arnat ti, a mi a dynnaf ymaith dy hiliogaeth di, ac a dorraf oddi wrth Ahab bob gwryw, y gwarchaeëdig hefyd, a'r gweddilledig yn Israel:
22. A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahïa, oherwydd y dicter trwy yr hwn y'm digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu.
23. Am Jesebel hefyd y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Y cŵn a fwyty Jesebel wrth fur Jesreel.
24. Y cŵn a fwyty yr hwn a fyddo marw o'r eiddo Ahab yn y ddinas: a'r hwn a fyddo marw yn y maes a fwyty adar y nefoedd.
25. Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr Arglwydd: oherwydd Jesebel ei wraig a'i hanogai ef.
26. Ac efe a wnaeth yn ffiaidd iawn, gan fyned ar ôl delwau, yn ôl yr hyn oll a wnaeth yr Amoriaid, y rhai a yrrodd yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.
27. A phan glybu Ahab y geiriau hyn, efe a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachliain am ei gnawd, ac a ymprydiodd, ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn araf.
28. A gair yr Arglwydd a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd,
29. Oni weli di fel yr ymostwng Ahab ger fy mron? am iddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg yn ei ddyddiau ef; ond yn nyddiau ei fab ef y dygaf y drwg ar ei dŷ ef.