11. A gwŷr ei ddinas, sef yr henuriaid a'r penaethiaid, y rhai oedd yn trigo yn ei ddinas ef, a wnaethant yn ôl yr hyn a anfonasai Jesebel atynt hwy, ac yn ôl yr hyn oedd ysgrifenedig yn y llythyrau a anfonasai hi atynt hwy.
12. Cyhoeddasant ympryd, a chyfleasant Naboth uwchben y bobl.
13. A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd Dduw a'r brenin. Yna hwy a'i dygasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw.
14. Yna yr anfonasant hwy at Jesebel, gan ddywedyd, Naboth a labyddiwyd, ac a fu farw.
15. A phan glybu Jesebel labyddio Naboth, a'i farw, Jesebel a ddywedodd wrth Ahab, Cyfod, perchenoga winllan Naboth y Jesreeliad yr hwn a wrthododd ei rhoddi i ti er arian; canys nid byw Naboth, eithr marw yw.
16. A phan glybu Ahab farw Naboth, Ahab a gyfododd i fyned i waered i winllan Naboth y Jesreeliad, i gymryd meddiant ynddi.