Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:22-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain.

23. Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a'i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano.

24. A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a'r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A'r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth.

25. Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano.

26. A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.

27. A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.

28. A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a'u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt.

29. Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.

30. A dywedodd Eleias wrth yr holl bobl, Nesewch ataf fi. A'r holl bobl a nesasant ato ef. Ac efe a gyweiriodd allor yr Arglwydd, yr hon a ddrylliasid.

31. Ac Eleias a gymerth ddeuddeg o gerrig, yn ôl rhifedi llwythau meibion Jacob, yr hwn y daethai gair yr Arglwydd ato, gan ddywedyd, Israel fydd dy enw di.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18