Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 18:20-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. Felly Ahab a anfonodd at holl feibion Israel, ac a gasglodd y proffwydi ynghyd i fynydd Carmel.

21. Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd, Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A'r bobl nid atebasant iddo air.

22. Yna y dywedodd Eleias wrth y bobl, Myfi fy hunan wyf yn fyw o broffwydi yr Arglwydd; ond proffwydi Baal ydynt bedwar cant a dengwr a deugain.

23. Rhodder gan hynny i ni ddau fustach: a dewisant hwy iddynt un bustach, a darniant ef, a gosodant ar goed, ond na osodant dân dano: a minnau a baratoaf y bustach arall, ac a'i gosodaf ar goed, ac ni roddaf dân dano.

24. A gelwch chwi ar enw eich duwiau, a minnau a alwaf ar enw yr Arglwydd: a'r Duw a atebo trwy dân, bydded efe Dduw. A'r holl bobl a atebasant ac a ddywedasant, Da yw y peth.

25. Ac Eleias a ddywedodd wrth broffwydi Baal, Dewiswch i chwi un bustach, a pharatowch ef yn gyntaf; canys llawer ydych chwi: a gelwch ar enw eich duwiau, ond na osodwch dân dano.

26. A hwy a gymerasant y bustach a roddasid iddynt, ac a'i paratoesant, ac a alwasant ar enw Baal o'r bore hyd hanner dydd, gan ddywedyd, Baal, gwrando ni; ond nid oedd llef, na neb yn ateb: a hwy a lamasant ar yr allor a wnaethid.

27. A bu, ar hanner dydd, i Eleias eu gwatwar hwynt, a dywedyd, Gwaeddwch â llef uchel: canys duw yw efe; naill ai ymddiddan y mae, neu erlid, neu ymdeithio y mae efe; fe a allai ei fod yn cysgu, ac mai rhaid ei ddeffro ef.

28. A hwy a waeddasant â llef uchel, ac a'u torasant eu hunain yn ôl eu harfer â chyllyll ac ag ellynod, nes i'r gwaed ffrydio arnynt.

29. Ac wedi iddi fyned dros hanner dydd, a phroffwydo ohonynt nes offrymu yr hwyr‐offrwm; eto nid oedd llef, na neb yn ateb, nac yn ystyried.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 18