Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf.

11. Ac a hi yn myned i'w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law.

12. A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i'm mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw.

13. Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i'th fab ar ôl hynny.

14. Canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Y blawd yn y celwrn ni threulir, a'r olew o'r ystên ni dderfydd, hyd y dydd y rhoddo yr Arglwydd law ar wyneb y ddaear.

15. A hi a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair Eleias: a hi a fwytaodd, ac yntau, a'i thylwyth, ysbaid blwyddyn.

16. Ni ddarfu y celwrn blawd, a'r ystên olew ni ddarfu, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a ddywedasai efe trwy law Eleias.

17. Ac wedi y pethau hyn y clafychodd mab gwraig y tŷ, ac yr oedd ei glefyd ef mor gryf, fel na thrigodd anadl ynddo.

18. A hi a ddywedodd wrth Eleias, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, gŵr Duw? a ddaethost ti ataf i goffáu fy anwiredd, ac i ladd fy mab?

19. Ac efe a ddywedodd wrthi, Moes i mi dy fab. Ac efe a'i cymerth ef o'i mynwes hi, ac a'i dug ef i fyny i ystafell yr oedd efe yn aros ynddi, ac a'i gosododd ef ar ei wely ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17