Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Eleias y Thesbiad, un o breswylwyr Gilead, a ddywedodd wrth Ahab, Fel mai byw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na glaw, ond yn ôl fy ngair i.

2. A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,

3. Dos oddi yma, a thro tua'r dwyrain, ac ymguddia wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.

4. Ac o'r afon yr yfi; a mi a berais i'r cigfrain dy borthi di yno.

5. Felly efe a aeth, ac a wnaeth yn ôl gair yr Arglwydd; canys efe a aeth, ac a arhosodd wrth afon Cerith, yr hon sydd ar gyfer yr Iorddonen.

6. A'r cigfrain a ddygent iddo fara a chig y bore, a bara a chig brynhawn: ac efe a yfai o'r afon.

7. Ac yn ôl talm o ddyddiau y sychodd yr afon, oblegid na buasai law yn y wlad.

8. A gair yr Arglwydd a ddaeth ato ef, gan ddywedyd,

9. Cyfod, dos i Sareffta, yr hon sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno: wele, gorchmynnais i wraig weddw dy borthi di yno.

10. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Sareffta. A phan ddaeth efe at borth y ddinas, wele yno wraig weddw yn casglu briwydd: ac efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi ychydig ddwfr mewn llestr, fel yr yfwyf.

11. Ac a hi yn myned i'w gyrchu, efe a alwodd arni, ac a ddywedodd, Dwg, atolwg, i mi damaid o fara yn dy law.

12. A hi a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd dy Dduw, nid oes gennyf deisen, ond llonaid llaw o flawd mewn celwrn, ac ychydig olew mewn ystên: ac wele fi yn casglu dau o friwydd, i fyned i mewn, ac i baratoi hynny i mi ac i'm mab, fel y bwytaom hynny, ac y byddom feirw.

13. Ac Eleias a ddywedodd wrthi, Nac ofna; dos, gwna yn ôl dy air: eto gwna i mi o hynny deisen fechan yn gyntaf, a dwg i mi; a gwna i ti ac i'th fab ar ôl hynny.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17