28. Ac Omri a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria, ac Ahab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
29. Ac Ahab mab Omri a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asa brenin Jwda: ac Ahab mab Omri a deyrnasodd ar Israel yn Samaria ddwy flynedd ar hugain.
30. Ac Ahab mab Omri a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd y tu hwnt i bawb o'i flaen ef.
31. Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo.
32. Ac efe a gyfododd allor i Baal yn nhÅ· Baal, yr hwn a adeiladasai efe yn Samaria.
33. Ac Ahab a wnaeth lwyn. Ac Ahab a wnaeth fwy i ddigio Arglwydd Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel a fuasai o'i flaen ef.