15. Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Simri saith niwrnod yn Tirsa: a'r bobl oedd yn gwersyllu yn erbyn Gibbethon eiddo y Philistiaid.
16. A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriadodd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll.
17. Ac Omri a aeth i fyny, a holl Israel gydag ef, o Gibbethon; a hwy a warchaeasant ar Tirsa.
18. A phan welodd Simri fod y ddinas wedi ei hennill, efe a aeth i balas tŷ y brenin, ac a losgodd dŷ y brenin am ei ben â thân, ac a fu farw;
19. Am ei bechodau yn y rhai y pechodd efe, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, gan rodio yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod a wnaeth efe i beri i Israel bechu.
20. A'r rhan arall o hanes Simri, a'i gydfradwriaeth a gydfwriadodd efe; onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
21. Yna yr ymrannodd pobl Israel yn ddwy ran: rhan o'r bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath, i'w osod ef yn frenin, a rhan ar ôl Omri.
22. A'r bobl oedd ar ôl Omri a orchfygodd y bobl oedd ar ôl Tibni mab Ginath: felly Tibni a fu farw, ac Omri a deyrnasodd.
23. Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Omri ar Israel ddeuddeng mlynedd: yn Tirsa y teyrnasodd efe chwe blynedd.
24. Ac efe a brynodd fynydd Samaria gan Semer, er dwy dalent o arian; ac a adeiladodd yn y mynydd, ac a alwodd enw y ddinas a adeiladasai efe, ar ôl enw Semer, arglwydd y mynydd, Samaria.