Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 15:23-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A'r rhan arall o holl hanes Asa, a'i holl gadernid ef, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'r dinasoedd a adeiladodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? eithr yn amser ei henaint efe a glafychodd o'i draed.

24. Ac Asa a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd ei dad; a Jehosaffat ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25. A Nadab mab Jeroboam a ddechreuodd deyrnasu ar Israel yn yr ail flwyddyn i Asa brenin Jwda; ac a deyrnasodd ar Israel ddwy flynedd.

26. Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd ei dad, ac yn ei bechod ef â'r hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

27. A Baasa mab Ahïa, o dŷ Issachar, a gydfwriadodd yn ei erbyn ef; a Baasa a'i trawodd ef yn Gibbethon eiddo y Philistiaid: canys Nadab a holl Israel oedd yn gwarchae ar Gibbethon.

28. A Baasa a'i lladdodd ef yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

29. A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dŷ Jeroboam; ni adawodd un perchen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y Siloniad:

30. Am bechodau Jeroboam y rhai a bechasai efe, a thrwy y rhai y gwnaethai efe i Israel bechu; oherwydd ei waith ef yn digio Arglwydd Dduw Israel.

31. A'r rhan arall o hanes Nadab, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

32. A rhyfel a fu rhwng Asa a Baasa brenin Israel eu holl ddyddiau hwynt.

33. Yn y drydedd flwyddyn i Asa brenin Jwda y teyrnasodd Baasa mab Ahïa ar holl Israel yn Tirsa, bedair blynedd ar hugain.

34. Ac efe a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd yn ffordd Jeroboam, ac yn ei bechod ef trwy yr hwn y gwnaeth efe i Israel bechu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 15