2. Tair blynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.
3. Ac efe a rodiodd yn holl bechodau ei dad, y rhai a wnaethai efe o'i flaen ef: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r Arglwydd ei Dduw, fel calon Dafydd ei dad.
4. Ond er mwyn Dafydd y rhoddodd yr Arglwydd ei Dduw iddo ef oleuni yn Jerwsalem; i gyfodi ei fab ef ar ei ôl ef, ac i sicrhau Jerwsalem:
5. Oherwydd gwneuthur o Dafydd yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, ac na chiliodd oddi wrth yr hyn oll a orchmynnodd efe iddo holl ddyddiau ei einioes, ond yn achos Ureia yr Hethiad.
6. A rhyfel a fu rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei einioes.
7. A'r rhan arall o weithredoedd Abeiam, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? A rhyfel a fu rhwng Abeiam a Jeroboam.
8. Ac Abeiam a hunodd gyda'i dadau, a hwy a'i claddasant ef yn ninas Dafydd. Ac Asa ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
9. Ac yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel yr aeth Asa yn frenin ar Jwda.
10. Ac un flynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. Ac enw ei fam ef oedd Maacha, merch Abisalom.
11. Ac Asa a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.
12. Ac efe a yrrodd ymaith y gwŷr sodomiaidd o'r wlad, ac a fwriodd ymaith yr holl ddelwau a wnaethai ei dadau.
13. Ac efe a symudodd Maacha ei fam o fod yn frenhines, oherwydd gwneuthur ohoni hi ddelw mewn llwyn; ac Asa a ddrylliodd ei delw hi, ac a'i llosgodd wrth afon Cidron.
14. Ond ni fwriwyd ymaith yr uchelfeydd: eto calon Asa oedd berffaith gyda'r Arglwydd ei holl ddyddiau ef.
15. Ac efe a ddug i mewn gysegredig bethau ei dad, a'r pethau a gysegrasai efe ei hun, i dŷ yr Arglwydd, yn arian, yn aur, ac yn llestri.