Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 14:17-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. A gwraig Jeroboam a gyfododd, ac a aeth ymaith, ac a ddaeth i Tirsa: ac a hi yn dyfod i drothwy y tŷ, bu farw y bachgen.

18. A hwy a'i claddasant ef; a holl Israel a alarasant amdano, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahïa y proffwyd.

19. A'r rhan arall o weithredoedd Jeroboam, fel y rhyfelodd efe, ac fel y teyrnasodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

20. A'r dyddiau y teyrnasodd Jeroboam oedd ddwy flynedd ar hugain: ac efe a hunodd gyda'i dadau; a Nadab ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

21. A Rehoboam mab Solomon a deyrnasodd yn Jwda. Mab un flwydd a deugain oedd Rehoboam pan aeth efe yn frenin, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, y ddinas a ddewisasai yr Arglwydd o holl lwythau Israel, i osod ei enw yno. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones.

22. A Jwda a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd; a hwy a'i hanogasant ef i eiddigedd, rhagor yr hyn oll a wnaethai eu tadau, yn eu pechodau a wnaethent.

23. Canys hwy a adeiladasant iddynt uchelfeydd, a delwau, a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren gwyrddlas.

24. A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

25. Ac yn y bumed flwyddyn i'r brenin Rehoboam, Sisac brenin yr Aifft a ddaeth i fyny yn erbyn Jerwsalem.

26. Ac efe a ddug ymaith drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin; efe a'u dug hwynt ymaith oll: dug ymaith hefyd yr holl darianau aur a wnaethai Solomon.

27. A'r brenin Rehoboam a wnaeth yn eu lle hwynt darianau pres, ac a'u rhoddodd hwynt i gadw yn llaw tywysogion y rhedegwyr, y rhai oedd yn cadw drws tŷ y brenin.

28. A phan elai y brenin i dŷ yr Arglwydd, y rhedegwyr a'u dygent hwy, ac a'u hadferent i ystafell y rhedegwyr.

29. A'r rhan arall o weithredoedd Rehoboam, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

30. A rhyfel fu rhwng Rehoboam a Jeroboam yr holl ddyddiau.

31. A Rehoboam a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd. Ac enw ei fam ef oedd Naama, Ammones. Ac Abeiam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 14