1. Y pryd hwnnw y clafychodd Abeia mab Jeroboam.
2. A Jeroboam a ddywedodd wrth ei wraig, Cyfod atolwg, a newid dy ddillad, fel na wypont mai ti yw gwraig Jeroboam; a dos i Seilo: wele, yno y mae Ahïa y proffwyd, yr hwn a ddywedodd wrthyf y byddwn frenin ar y bobl yma.
3. A chymer yn dy law ddeg o fara, a theisennau, a chostrelaid o fêl, a dos ato ef: efe a fynega i ti beth a dderfydd i'r bachgen.