Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 13:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wele gŵr i Dduw a ddaeth o Jwda, trwy air yr Arglwydd, i Bethel: a Jeroboam oedd yn sefyll wrth yr allor i arogldarthu.

2. Ac efe a lefodd yn erbyn yr allor, trwy air yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O allor, allor, fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Wele, mab a enir i dŷ Dafydd, a'i enw Joseia; ac efe a abertha arnat ti offeiriaid yr uchelfeydd y rhai sydd yn arogldarthu arnat ti, a hwy a losgant esgyrn dynion arnat ti.

3. Ac efe a roddodd arwydd y dwthwn hwnnw, gan ddywedyd, Dyma yr argoel a lefarodd yr Arglwydd; Wele, yr allor a rwygir, a'r lludw sydd arni a dywelltir.

4. A phan glybu y brenin air gŵr Duw, yr hwn a lefodd efe yn erbyn yr allor yn Bethel, yna Jeroboam a estynnodd ei law oddi wrth yr allor, gan ddywedyd, Deliwch ef. A diffrwythodd ei law ef, yr hon a estynasai efe yn ei erbyn ef, fel na allai efe ei thynnu hi ato.

5. Yr allor hefyd a rwygodd, a'r lludw a dywalltwyd oddi ar yr allor, yn ôl yr argoel a roddasai gŵr Duw trwy air yr Arglwydd.

6. A'r brenin a atebodd ac a ddywedodd wrth ŵr Duw, Gweddïa, atolwg, gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac ymbil drosof fi, fel yr adferer fy llaw i mi. A gŵr Duw a weddïodd gerbron yr Arglwydd; a llaw y brenin a adferwyd iddo ef, ac a fu fel cynt.

7. A'r brenin a ddywedodd wrth ŵr Duw, Tyred adref gyda mi, a chymer luniaeth, a mi a roddaf rodd i ti.

8. A gŵr Duw a ddywedodd wrth y brenin, Pe rhoddit i mi hanner dy dŷ, ni ddeuwn i gyda thi; ac ni fwytawn fara, ac nid yfwn ddwfr, yn y fan hon:

9. Canys fel hyn y gorchmynnwyd i mi trwy air yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na fwyta fara, ac nac yf ddwfr; na ddychwel chwaith ar hyd y ffordd y daethost.

10. Felly efe a aeth ymaith ar hyd ffordd arall, ac ni ddychwelodd ar hyd y ffordd y daethai ar hyd‐ddi i Bethel.

11. Ac yr oedd rhyw hen broffwyd yn trigo yn Bethel; a'i fab a ddaeth ac a fynegodd iddo yr holl waith a wnaethai gŵr Duw y dydd hwnnw yn Bethel: a hwy a fynegasant i'w tad y geiriau a lefarasai efe wrth y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 13