Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 11:2-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. O'r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad.

3. Ac yr oedd ganddo ef saith gant o wragedd, yn freninesau; a thri chant o ordderchwragedd: a'i wragedd a droesant ei galon ef.

4. A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duwiau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda'r Arglwydd ei Dduw, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef.

5. Canys Solomon a aeth ar ôl Astoreth duwies y Sidoniaid, ac ar ôl Milcom ffieidd‐dra yr Ammoniaid.

6. A Solomon a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd; ac ni chyflawnodd fyned ar ôl yr Arglwydd, fel Dafydd ei dad.

7. Yna Solomon a adeiladodd uchelfa i Cemos, ffieidd‐dra Moab, yn y bryn sydd ar gyfer Jerwsalem; ac i Moloch, ffieidd-dra meibion Ammon.

8. Ac felly y gwnaeth efe i'w holl wragedd dieithr, y rhai a arogldarthasant ac a aberthasant i'w duwiau.

9. A'r Arglwydd a ddigiodd wrth Solomon, oherwydd troi ei galon ef oddi wrth Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a ymddangosasai iddo ef ddwy waith,

10. Ac a orchmynasai iddo am y peth hyn, nad elai efe ar ôl duwiau dieithr: ond ni chadwodd efe yr hyn a orchmynasai yr Arglwydd.

11. Am hynny y dywedodd yr Arglwydd wrth Solomon, Oherwydd bod hyn ynot ti, ac na chedwaist fy nghyfamod a'm deddfau a orchmynnais i ti; gan rwygo y rhwygaf y frenhiniaeth oddi wrthyt ti, ac a'i rhoddaf hi i'th was di.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 11