Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 11:13-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ond ni rwygaf yr holl frenhiniaeth; un llwyth a roddaf i'th fab di, er mwyn Dafydd fy ngwas, ac er mwyn Jerwsalem yr hon a etholais.

14. A'r Arglwydd a gyfododd wrthwynebwr i Solomon, Hadad yr Edomiad: o had y brenin yn Edom yr oedd efe.

15. Canys pan oedd Dafydd yn Edom, a Joab tywysog y filwriaeth yn myned i fyny i gladdu'r lladdedigion, wedi iddo daro pob gwryw yn Edom;

16. (Canys chwe mis yr arhosodd Joab yno â holl Israel, nes difetha pob gwryw yn Edom:)

17. Yr Hadad hwnnw a ffodd, a gwŷr Edom o weision ei dad gydag ef, i fyned i'r Aifft; a Hadad yn fachgen bychan eto.

18. A hwy a gyfodasant o Midian, ac a ddaethant i Paran: ac a gymerasant wŷr gyda hwynt o Paran, ac a ddaethant i'r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft; ac efe a roddes iddo ef dŷ, ac a ddywedodd am roddi bwyd iddo, ac a roddodd dir iddo.

19. A Hadad a gafodd ffafr fawr yng ngolwg Pharo, ac efe a roddes iddo ef yn wraig chwaer ei wraig ei hun, chwaer Tahpenes y frenhines.

20. A chwaer Tahpenes a ymddûg iddo ef Genubath ei fab; a Thahpenes a'i diddyfnodd ef yn nhŷ Pharo: a Genubath fu yn nhŷ Pharo ymysg meibion Pharo.

21. A phan glybu Hadad yn yr Aifft, huno o Dafydd gyda'i dadau, a marw o Joab tywysog y filwriaeth, Hadad a ddywedodd wrth Pharo, Gollwng fi, fel yr elwyf i'm gwlad fy hun.

22. A dywedodd Pharo wrtho ef, Ond pa beth sydd arnat ei eisiau gyda mi, pan wyt, wele, yn ceisio myned i'th wlad dy hun? Ac efe a ddywedodd, Dim; eithr gan ollwng gollwng fi.

23. A Duw a gyfododd wrthwynebwr arall yn ei erbyn ef, Reson mab Eliada, yr hwn a ffoesai oddi wrth Hadadeser brenin Soba ei arglwydd:

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 11