Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 10:3-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a'r na fynegodd efe iddi hi.

4. A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladasai efe,

5. A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a'u dillad hwynt, a'i drulliadau ef, a'i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr Arglwydd; nid oedd mwyach ysbryd ynddi.

6. A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb.

7. Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i'm llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a'th ddaioni na'r clod a glywais i.

8. Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb.

9. Bendigedig fyddo yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th hoffodd di, i'th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr Arglwydd tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder.

10. A hi a roddes i'r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â'r rhai a roddodd brenhines Seba i'r brenin Solomon.

11. A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr.

12. A'r brenin a wnaeth o'r coed almugim anelau i dŷ yr Arglwydd, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gantorion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn.

13. A'r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o'i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i'w gwlad, hi a'i gweision.

14. A phwys yr aur a ddeuai i Solomon bob blwyddyn, oedd chwe chant a thrigain a chwech o dalentau aur;

15. Heblaw yr hyn a gâi efe gan y marchnadwyr, ac o farsiandïaeth y llysieuwyr, a chan holl frenhinoedd Arabia, a thywysogion y wlad.

16. A'r brenin Solomon a wnaeth ddau gant o darianau aur dilin; chwe chan sicl o aur a roddodd efe ym mhob tarian:

17. A thri chant o fwcledi o aur dilin; tair punt o aur a roddes efe ym mhob bwcled. A'r brenin a'u rhoddes hwynt yn nhŷ coedwig Libanus.

18. A'r brenin a wnaeth orseddfainc fawr o ifori, ac a'i gwisgodd hi ag aur o'r gorau.

19. Chwech o risiau oedd i'r orseddfainc; a phen crwn oedd i'r orseddfainc o'r tu ôl iddi, a chanllawiau o bob tu i'r eisteddle, a dau lew yn sefyll yn ymyl y canllawiau.

20. A deuddeg o lewod oedd yn sefyll yno ar y chwe gris o'r ddeutu. Ni wnaethpwyd y fath yn un deyrnas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 10