35. Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i; ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda.
36. A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen: yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin.
37. Megis y bu yr Arglwydd gyda'm harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd.
38. Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
39. A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o'r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a'r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
40. A'r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.
41. A chlybu Adoneia, a'i holl wahoddedigion y rhai oedd gydag ef, pan ddarfuasai iddynt fwyta. Joab hefyd a glywodd lais yr utgorn; ac a ddywedodd, Paham y mae twrf y ddinas yn derfysgol?
42. Ac efe eto yn llefaru, wele, daeth Jonathan mab Abiathar yr offeiriad. A dywedodd Adoneia, Tyred i mewn: canys gŵr grymus ydwyt ti, a daioni a fynegi di.
43. A Jonathan a atebodd ac a ddywedodd wrth Adoneia, Yn ddiau ein harglwydd frenin Dafydd a osododd Solomon yn frenin.
44. A'r brenin a anfonodd gydag ef Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid; a hwy a barasant iddo ef farchogaeth ar fules y brenin.