29. A'r brenin a dyngodd, ac a ddywedodd, Fel y mae yr Arglwydd yn fyw, yr hwn a waredodd fy enaid i allan o bob cyfyngder,
30. Yn ddiau megis y tyngais wrthyt ti i Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i yn fy lle i; felly y gwnaf y dydd hwn.
31. Yna Bathseba a ostyngodd ei phen a'i hwyneb i lawr, ac a ymgrymodd i'r brenin, ac a ddywedodd, Bydded fy arglwydd frenin Dafydd fyw byth.
32. A'r brenin Dafydd a ddywedodd, Gelwch ataf fi Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada. A hwy a ddaethant o flaen y brenin.
33. A'r brenin a ddywedodd wrthynt, Cymerwch weision eich arglwydd gyda chwi'a pherwch i Solomon fy mab farchogaeth ar fy mules fy nun, a dygwch ef i waered i Gihon.
34. Ac eneinied Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd ef yno yn frenin ar Israel: ac utgenwch mewn utgorn, a dywedwch, Bydded fyw y brenin Solomon.
35. Deuwch chwithau i fyny ar ei ôl ef, a deued efe i fyny, ac eistedded ar fy ngorseddfa i; ac efe a deyrnasa yn fy lle i: canys ef a ordeiniais i fod yn flaenor ar Israel ac ar Jwda.
36. A Benaia mab Jehoiada a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Amen: yr un modd y dywedo Arglwydd Dduw fy arglwydd frenin.
37. Megis y bu yr Arglwydd gyda'm harglwydd y brenin, felly bydded gyda Solomon, a gwnaed yn fwy ei orseddfainc ef na gorseddfainc fy arglwydd y brenin Dafydd.
38. Felly Sadoc yr offeiriad, a Nathan y proffwyd, a Benaia mab Jehoiada, a'r Cerethiaid, a'r Pelethiaid, a aethant i waered, ac a wnaethant i Solomon farchogaeth ar fules y brenin Dafydd, ac a aethant ag ef i Gihon.
39. A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o'r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a'r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
40. A'r holl bobl a aethant i fyny ar ei ôl ef, yn canu pibellau, ac yn llawenychu â llawenydd mawr, fel y rhwygai y ddaear gan eu sŵn hwynt.