16. A Bathseba a ostyngodd ei phen, ac a ymgrymodd i'r brenin. A'r brenin a ddywedodd, Beth a fynni di?
17. Hithau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd, ti a dyngaist i'r Arglwydd dy Dduw wrth dy wasanaethyddes, gan ddywedyd, Solomon dy fab a deyrnasa yn ddiau ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc i:
18. Ac yn awr, wele, Adoneia sydd frenin; ac yr awr hon, fy arglwydd frenin, nis gwyddost ti hyn.
19. Ac efe a laddodd wartheg, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer iawn, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, ac Abiathar yr offeiriad, a Joab tywysog y filwriaeth: ond dy was Solomon ni wahoddodd efe.
20. Tithau, fy arglwydd frenin, y mae llygaid holl Israel arnat ti, am fynegi iddynt pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef.
21. Os amgen, pan orweddo fy arglwydd frenin gyda'i dadau, yna y cyfrifir fi a'm mab Solomon yn bechaduriaid.
22. Ac wele, tra yr oedd hi eto yn ymddiddan â'r brenin, y daeth Nathan y proffwyd hefyd i mewn.
23. A hwy a fynegasant i'r brenin, gan ddywedyd, Wele Nathan y proffwyd. Ac efe a aeth i mewn o flaen y brenin, ac a ymgrymodd i'r brenin â'i wyneb hyd lawr.
24. A dywedodd Nathan, Fy arglwydd frenin, a ddywedaist ti, Adoneia a deyrnasa ar fy ôl i, ac efe a eistedd ar fy ngorseddfainc?
25. Canys efe a aeth i waered heddiw, ac a laddodd ychen, ac anifeiliaid breision, a defaid lawer, ac a wahoddodd holl feibion y brenin, a thywysogion y filwriaeth, ac Abiathar yr offeiriad; ac wele hwynt yn bwyta ac yn yfed o'i flaen ef, ac y maent yn dywedyd, Bydded fyw y brenin Adoneia.
26. Ond myfi dy was, a Sadoc yr offeiriad, a Benaia mab Jehoiada, a'th was Solomon, ni wahoddodd efe.
27. Ai trwy fy arglwydd frenin y bu y peth hyn, heb ddangos ohonot i'th was, pwy a eistedd ar orseddfainc fy arglwydd y brenin ar ei ôl ef?