Hen Destament

Testament Newydd

Titus 1:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Oherwydd rhaid i arolygydd fod yn ddi-fai, ac yntau yn oruchwyliwr yng ngwasanaeth Duw. Rhaid iddo beidio â bod yn drahaus, nac yn fyr ei dymer, nac yn rhy hoff o win, nac yn rhy barod i daro, nac yn un sy'n chwennych elw anonest,

8. ond yn lletygar, ac yn caru daioni, yn ddisgybledig, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn feistr arno'i hun.

9. Dylai ddal ei afael yn dynn yn y gair sydd i'w gredu ac sy'n gyson â'r hyn a ddysgir, er mwyn iddo fedru annog eraill â'i athrawiaeth iach, a gwrthbrofi cyfeiliornad ei wrthwynebwyr.

10. Oherwydd y mae llawer, ac yn arbennig y credinwyr Iddewig, yn afreolus, ac yn twyllo dynion â'u dadleuon diffaith;

11. ac fe ddylid rhoi taw arnynt. Pobl ydynt sydd yn tanseilio teuluoedd cyfan drwy ddysgu iddynt bethau na ddylent eu dysgu, a hynny er mwyn elw anonest.

12. Dywedodd un ohonynt, un o'u proffwydi hwy eu hunain:“Celwyddgwn fu'r Cretiaid erioed, anifeiliaid anwar, bolrwth a diog.”

13. Y mae'r dystiolaeth hon yn wir. Am hynny, cerydda hwy'n ddidostur, er mwyn eu cael yn iach yn y ffydd

14. yn lle bod â'u bryd ar chwedlau Iddewig a gorchmynion pobl sy'n troi cefn ar y gwirionedd.

15. I'r pur, y mae pob peth yn bur; ond i'r rhai llygredig a di-gred, nid oes dim yn bur; y mae eu deall a'u cydwybod wedi eu llygru.

Darllenwch bennod gyflawn Titus 1