Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 9:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd:“Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi,a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;

26. ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, ‘Nid fy mhobl ydych’,yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw.”

27. Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: “Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub;

28. oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.”

29. A'r un yw neges gair blaenorol Eseia:“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion,byddem fel Sodom,ac yn debyg i Gomorra.”

30. Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd;

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 9