Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 9:13-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Jacob, fe'i cerais,ond Esau, fe'i caseais.”

14. Beth, ynteu, a atebwn i hyn? Bod Duw yn coleddu anghyfiawnder? Ddim ar unrhyw gyfrif!

15. Y mae'n dweud wrth Moses:“Trugarhaf wrth bwy bynnag y trugarhaf wrtho,a thosturiaf wrth bwy bynnag y tosturiaf wrtho.”

16. Felly, nid mater o ewyllys neu o ymdrech ddynol ydyw, ond o drugaredd Duw.

17. Fel y dywedir wrth Pharo yn yr Ysgrythur, “Fy union amcan wrth dy godi di oedd dangos fy ngallu ynot ti, a chyhoeddi fy enw trwy'r holl ddaear.”

18. Gwelir, felly, fod Duw yn trugarhau wrth unrhyw un a fyn, a'i fod yn gwneud unrhyw un a fyn yn wargaled.

19. Ond fe ddywedi wrthyf, “Os felly, pam y mae Duw yn dal i feio pobl? Pwy a all wrthsefyll ei ewyllys?”

20. Ie, ond pwy wyt ti, feidrolyn, i ateb Duw yn ôl? A yw hi'n debyg y dywed yr hyn a luniwyd wrth yr un a'i lluniodd, “Pam y lluniaist fi fel hyn?”

21. Oni all y crochenydd lunio beth bynnag a fynno o'r clai? Onid oes hawl ganddo i wneud, o'r un telpyn, un llestr i gael parch a'r llall amarch?

22. Ond beth os yw Duw, yn ei awydd i ddangos ei ddigofaint ac i amlygu ei nerth, wedi dioddef â hir amynedd y llestri hynny sy'n wrthrychau digofaint ac yn barod i'w dinistrio?

23. Ei amcan yn hyn fyddai dwyn i'r golau y cyfoeth o ogoniant oedd ganddo ar gyfer y llestri sy'n wrthrychau trugaredd, y rheini yr oedd ef wedi eu paratoi ymlaen llaw i ogoniant.

24. A ni yw'r rhain, ni sydd wedi ein galw, nid yn unig o blith yr Iddewon, ond hefyd o blith y Cenhedloedd.

25. Fel y mae'n dweud yn llyfr Hosea hefyd:“Galwaf yn bobl i mi rai nad ydynt yn bobl i mi,a galwaf yn anwylyd un nad yw'n anwylyd;

26. ac yn y lle y dywedwyd wrthynt, ‘Nid fy mhobl ydych’,yno, fe'u gelwir yn blant y Duw byw.”

27. Ac y mae Eseia yn datgan am Israel: “Er i bobl Israel fod mor niferus â thywod y môr, gweddill yn unig fydd yn cael eu hachub;

28. oherwydd llwyr a llym fydd dedfryd yr Arglwydd ar y ddaear.”

29. A'r un yw neges gair blaenorol Eseia:“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael i ni ddisgynyddion,byddem fel Sodom,ac yn debyg i Gomorra.”

30. Beth, ynteu, a ddywedwn? Hyn, fod Cenhedloedd, nad oeddent â'u bryd ar gyfiawnder, wedi dod o hyd iddo, sef y cyfiawnder sydd trwy ffydd;

31. ond bod Israel, er iddi fod â'i bryd ar gyfraith a fyddai'n dod â chyfiawnder, heb ei gael.

32. Am ba reswm? Am iddynt weithredu, nid trwy ffydd ond ar y dybiaeth mai cadw gofynion cyfraith oedd y ffordd. Syrthiasant ar y “maen tramgwydd”

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 9