1. Ar fy ngwir yng Nghrist, heb ddim anwiredd—ac y mae fy nghydwybod, dan arweiniad yr Ysbryd Glân, yn fy ategu—
2. y mae fy ngofid yn fawr, ac y mae gennyf loes ddi-baid yn fy nghalon.
3. Gallwn ddymuno i mi fy hunan fod dan felltith, ac yn ysgymun oddi wrth Grist, pe bai hynny o les iddynt hwy, fy nghyd-Iddewon i, fy mhobl i o ran cig a gwaed.
4. Israeliaid ydynt; eu heiddo hwy yw'r mabwysiad, y gogoniant, y cyfamodau, y Gyfraith, yr addoliad a'r addewidion.
5. Iddynt hwy y mae'r hynafiaid yn perthyn, ac oddi wrthynt hwy, yn ôl ei linach naturiol, y daeth y Meseia. I'r Duw sy'n llywodraethu'r cwbl boed bendith am byth. Amen.
6. Ond ni ellir dweud bod gair Duw wedi methu. Oherwydd nid yw pawb sydd o linach Israel yn wir Israel.
7. Ac ni ellir dweud bod pawb ohonynt, am eu bod yn ddisgynyddion Abraham, yn blant gwirioneddol iddo. Yn hytrach, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Trwy Isaac y gelwir dy ddisgynyddion.”
8. Hynny yw, nid y plant o linach naturiol Abraham, nid y rheini sy'n blant i Dduw. Yn hytrach, plant yr addewid sy'n cael eu cyfrif yn ddisgynyddion.