Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn.

34. Pwy sydd yn ein collfarnu? Crist Iesu yw'r un a fu farw, yn hytrach a gyfodwyd, yr un hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr un sydd yn ymbil trosom.

35. Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? Ai gorthrymder, neu ing, neu erlid, neu newyn, neu noethni, neu berygl, neu gleddyf?

36. Hyn yn wir yw ein rhan, fel y mae'n ysgrifenedig:“Er dy fwyn di fe'n rhoddir i farwolaeth drwy'r dydd,fe'n cyfrifir fel defaid i'w lladd.”

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 8