Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau,

27. ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw.

28. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.

29. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 8