Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 8:19-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yn wir, y mae'r greadigaeth yn disgwyl yn daer am i blant Duw gael eu datguddio.

20. Oherwydd darostyngwyd y greadigaeth i oferedd, nid o'i dewis ei hun, ond trwy'r hwn a'i darostyngodd,

21. yn y gobaith y câi'r greadigaeth hithau ei rhyddhau o gaethiwed a llygredigaeth, a'i dwyn i ryddid a gogoniant plant Duw.

22. Oherwydd fe wyddom fod yr holl greadigaeth yn ochneidio, ac mewn gwewyr drwyddi, hyd heddiw.

23. Ac nid y greadigaeth yn unig, ond nyni sydd â blaenffrwyth yr Ysbryd gennym, yr ydym ninnau'n ochneidio ynom ein hunain wrth ddisgwyl ein mabwysiad yn blant Duw, sef rhyddhad ein corff o gaethiwed.

24. Oherwydd yn y gobaith hwn y cawsom ein hachub. Ond nid gobaith mo'r gobaith sy'n gweld. Pwy sy'n gobeithio am yr hyn y mae'n ei weld?

25. Yr hyn nad ydym yn ei weld yw gwrthrych gobaith, ac felly yr ydym yn dal i aros amdano mewn amynedd.

26. Yn yr un modd, y mae'r Ysbryd yn ein cynorthwyo yn ein gwendid. Oherwydd ni wyddom ni sut y dylem weddïo, ond y mae'r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau,

27. ac y mae Duw, sy'n chwilio calonnau dynol, yn deall bwriad yr Ysbryd, mai ymbil y mae tros y saint yn ôl ewyllys Duw.

28. Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda'r rhai sy'n ei garu, y rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei fwriad.

29. Oherwydd, cyn eu bod hwy, fe'u hadnabu, a'u rhagordeinio i fod yn unffurf ac unwedd â'i Fab, fel mai cyntafanedig fyddai ef ymhlith pobl lawer.

30. A'r rhai a ragordeiniodd, fe'u galwodd hefyd; a'r rhai a alwodd, fe'u cyfiawnhaodd hefyd; a'r rhai a gyfiawnhaodd, fe'u gogoneddodd hefyd.

31. O ystyried hyn oll, beth a ddywedwn? Os yw Duw trosom, pwy sydd yn ein herbyn?

32. Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?

33. Pwy sydd i ddwyn cyhuddiad yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r un sy'n dyfarnu'n gyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 8