Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 7:19-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Yr wyf yn cyflawni, nid y daioni yr wyf yn ei ewyllysio ond yr union ddrygioni sy'n groes i'm hewyllys.

20. Ond os wyf yn gwneud yr union beth sy'n groes i'm hewyllys, yna nid myfi sy'n gweithredu mwyach, ond y pechod sy'n cartrefu ynof fi.

21. Yr wyf yn cael y ddeddf hon ar waith: pan wyf yn ewyllysio gwneud daioni, drygioni sy'n ei gynnig ei hun imi.

22. Y mae'r gwir ddyn sydd ynof yn ymhyfrydu yng Nghyfraith Duw.

23. Ond yr wyf yn canfod cyfraith arall yn fy nghyneddfau corfforol, yn brwydro yn erbyn y Gyfraith y mae fy neall yn ei chydnabod, ac yn fy ngwneud yn garcharor i'r gyfraith sydd yn fy nghyneddfau, sef cyfraith pechod.

24. Y dyn truan ag ydwyf! Pwy a'm gwared i o'r corff hwn a'i farwolaeth?

25. Duw, diolch iddo, trwy Iesu Grist ein Harglwydd! Dyma, felly, sut y mae hi arnaf: yr wyf fi, y gwir fi, â'm deall yn gwasanaethu Cyfraith Duw, ond â'm cnawd yn gwasanaethu cyfraith pechod.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 7