14. Ni chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.
15. Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif!
16. Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; p'run bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn?
17. Ond, diolch i Dduw, yr ydych chwi, a fu'n gaethion i bechod, yn awr wedi rhoi ufudd-dod calon i'r patrwm hwnnw o athrawiaeth y traddodwyd chwi iddo.
18. Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder.
19. Yr wyf yn arfer ymadroddion cyfarwydd, o achos eich cyfyngiadau dynol chwi. Fel yr ildiasoch eich cyneddfau corfforol gynt i fod yn gaethion i aflendid ac anghyfraith, a phenrhyddid yn dilyn, felly ildiwch hwy yn awr i fod yn gaethion i gyfiawnder, a bywyd sanctaidd yn dilyn.
20. Pan oeddech yn gaeth i bechod, yr oeddech yn rhydd oddi wrth gyfiawnder.
21. Ond beth oedd ffrwyth y cyfnod hwnnw? Onid pethau sy'n codi cywilydd arnoch yn awr? Oherwydd diwedd y pethau hyn yw marwolaeth.
22. Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol.
23. Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.