Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn wyneb hyn, pa ragorfraint sydd i'r Iddew? Pa werth sydd i'r enwaediad?

2. Y mae llawer, ym mhob modd. Yn y lle cyntaf, i'r Iddewon yr ymddiriedwyd oraclau Duw.

3. Ond beth os bu rhai yn anffyddlon? A all eu hanffyddlondeb hwy ddileu ffyddlondeb Duw?

4. Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau,a gorchfygu wrth gael dy farnu.”

5. Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)

6. Ddim ar unrhyw gyfrif! Os nad yw Duw yn gyfiawn, sut y gall farnu'r byd?

7. Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur?

8. “Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn”—ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.

Nid oes Neb Cyfiawn

9. Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.

10. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Nid oes neb cyfiawn, nac oes un,

11. neb sydd yn deall,neb yn ceisio Duw.

12. Y mae pawb wedi gwyro, yn ddi-fudd ynghyd;nid oes un a wna ddaioni,nac oes, dim un.

13. Bedd agored yw eu llwnc,a'u tafodau'n traethu twyll;gwenwyn nadredd dan eu gwefusau,

14. a'u genau'n llawn melltith a chwerwedd.

15. Cyflym eu traed i dywallt gwaed,

16. distryw a thrallod sydd ar eu ffyrdd;

17. nid ydynt yn adnabod ffordd tangnefedd;

18. nid oes ofn Duw ar eu cyfyl.”

19. Fe wyddom mai wrth y rhai sydd dan y Gyfraith y mae'r Gyfraith yn llefaru pob dim a ddywed. Felly dyna daw ar bob ceg, a'r byd i gyd wedi ei osod dan farn Duw.

20. Oherwydd, “gerbron Duw ni chyfiawnheir neb meidrol” trwy gadw gofynion cyfraith. Yr hyn a geir trwy'r Gyfraith yw ymwybyddiaeth o bechod.

Cyfiawnder Trwy Ffydd

21. Ond yn awr, yn annibynnol ar gyfraith, y mae cyfiawnder Duw wedi ei amlygu. Y mae'r Gyfraith a'r proffwydi, yn wir, yn dwyn tystiolaeth iddo,

22. ond cyfiawnder sydd o Dduw ydyw, trwy ffydd yn Iesu Grist i bawb sy'n credu.

23. Ie, pawb yn ddiwahaniaeth, oherwydd y maent oll wedi pechu, ac yn amddifad o ogoniant Duw.

24. Gan ras Duw, ac am ddim, y maent yn cael eu cyfiawnhau, trwy'r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu,

25. yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gorffennol yn amser ymatal Duw;

26. ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.

27. A oes lle, felly, i'n hymffrost? Nac oes! Y mae wedi ei gau allan. Ar ba egwyddor? Ai egwyddor cadw gofynion cyfraith? Nage'n wir, ond ar egwyddor ffydd.

28. Ein dadl yw y cyfiawnheir rhywun trwy gyfrwng ffydd yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith.

29. Ai Duw'r Iddewon yn unig yw Duw? Onid yw'n Dduw'r Cenhedloedd hefyd?

30. Ydyw, yn wir, oherwydd un yw Duw, a bydd yn cyfiawnhau'r enwaededig trwy ffydd, a'r dienwaededig trwy'r un ffydd.

31. A ydym, ynteu, yn dileu'r Gyfraith trwy'r ffydd hon? Nac ydym, ddim o gwbl! Cadarnhau'r Gyfraith yr ydym.