9. Gorthrymder ac ing fydd i bob bod dynol sy'n gwneud drygioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid;
10. ond gogoniant ac anrhydedd a thangnefedd fydd i bob un sy'n gwneud daioni, i'r Iddewon yn gyntaf a hefyd i'r Groegiaid.
11. Nid oes ffafriaeth gerbron Duw.
12. Caiff pawb a bechodd heb y Gyfraith drengi hefyd heb y Gyfraith, a chaiff pawb a bechodd dan y Gyfraith eu barnu trwy'r Gyfraith.
13. Nid y rhai sy'n gwrando'r Gyfraith a geir yn gyfiawn gerbron Duw. Na, y rhai sy'n cadw'r Gyfraith a ddyfernir yn gyfiawn ganddo ef.
14. Pan yw Cenhedloedd sydd heb y Gyfraith yn cadw gofynion y Gyfraith wrth reddf, y maent, gan eu bod heb y Gyfraith, yn gyfraith iddynt eu hunain.
15. Y maent yn dangos bod yr hyn a ofynnir gan y Gyfraith wedi ei ysgrifennu yn eu calonnau, gan fod eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu â'r Gyfraith, ac felly y mae eu meddyliau weithiau'n eu cyhuddo, ac weithiau hefyd yn eu hamddiffyn.
16. Yn ôl yr Efengyl yr wyf fi'n ei phregethu, felly y bydd yn y Dydd pan fydd Duw yn barnu meddyliau cuddiedig pawb trwy Grist Iesu.
17. Amdanat ti, fe ddichon dy fod yn cario'r enw “Iddew”, yn pwyso ar y Gyfraith, yn ymffrostio yn Nuw,
18. yn gwybod ei ewyllys, ac oherwydd dy hyfforddi yn y Gyfraith yn gallu canfod yr hyn sy'n rhagori.