Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 16:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yr wyf yn cyflwyno i chwi Phebe, ein chwaer, sydd yn gwasanaethu'r eglwys yn Cenchreae.

2. Derbyniwch hi yn enw'r Arglwydd, mewn modd teilwng o'r saint, a byddwch yn gefn iddi ym mhob peth y gall fod arni angen eich cymorth, oherwydd y mae hithau wedi bod yn gefn i lawer, ac i mi yn bersonol.

3. Rhowch fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, fy nghydweithwyr yng Nghrist Iesu,

4. deuddyn a fentrodd eu heinioes i arbed fy mywyd i. Nid myfi yn unig sydd yn diolch iddynt, ond holl eglwysi'r Cenhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 16