Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 15:5-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A rhodded Duw, ffynhonnell pob dyfalbarhad ac anogaeth, i chwi fod yn gytûn eich meddwl ymhlith eich gilydd, yn ôl ewyllys Crist Iesu,

6. er mwyn ichwi, yn unfryd ac yn unllais, ogoneddu Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist.

7. Am hynny, derbyniwch eich gilydd, fel y derbyniodd Crist chwi, er gogoniant Duw.

8. Oherwydd yr wyf yn dweud bod Crist wedi dod yn was i'r Iddewon er mwyn dangos geirwiredd Duw, sef ei fod yn cadarnhau'r addewidion i'r hynafiaid,

9. a hefyd er mwyn i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Oherwydd hyn, clodforaf di ymysg y Cenhedloedd,a chanaf i'th enw.”

10. Ac y mae'n dweud eilwaith:“Llawenhewch, Genhedloedd, ynghyd â'i bobl ef.”

11. Ac eto:“Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd,a'r holl bobloedd yn dyblu'r mawl.”

12. Y mae Eseia hefyd yn dweud:“Fe ddaw gwreiddyn Jesse,y gŵr sy'n codi i lywodraethu'r Cenhedloedd;arno ef y bydd y Cenhedloedd yn seilio'u gobaith.”

13. A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichwi arfer eich ffydd, nes eich bod, trwy nerth yr Ysbryd Glân, yn gorlifo â gobaith.

14. Yr wyf fi, o'm rhan fy hun, yn gwbl sicr, fy nghyfeillion, eich bod chwithau yn llawn daioni, yn gyforiog o bob gwybodaeth, ac yn alluog i hyfforddi eich gilydd.

15. Bûm braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,

16. i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Glân.

17. Yng Nghrist Iesu, felly, y mae gennyf le i ymffrostio yn fy ngwasanaeth i Dduw,

18. oherwydd nid wyf am feiddio sôn am ddim ond yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi, yn y dasg o ennill y Cenhedloedd i ufuddhau iddo, mewn gair a gweithred,

19. trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum.

20. Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed sôn am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall;

21. fel y mae'n ysgrifenedig:“Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld,a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall.”

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 15