Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 15:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Bûm braidd yn hy arnoch mewn mannau yn fy llythyr, wrth geisio deffro eich cof. Ond gwneuthum hyn ar bwys y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras,

16. i fod yn weinidog Crist Iesu i'r Cenhedloedd, yn gweini fel offeiriad ar Efengyl Duw, er mwyn cyflwyno'r Cenhedloedd iddo yn offrwm cymeradwy, offrwm wedi ei gysegru gan yr Ysbryd Glân.

17. Yng Nghrist Iesu, felly, y mae gennyf le i ymffrostio yn fy ngwasanaeth i Dduw,

18. oherwydd nid wyf am feiddio sôn am ddim ond yr hyn a gyflawnodd Crist trwof fi, yn y dasg o ennill y Cenhedloedd i ufuddhau iddo, mewn gair a gweithred,

19. trwy rym arwyddion a rhyfeddodau, trwy nerth Ysbryd Duw. Ac felly, yr wyf fi wedi cwblhau cyhoeddi Efengyl Crist mewn cylch eang, o Jerwsalem cyn belled ag Ilyricum.

20. Yn hyn oll fe'i cedwais yn nod i bregethu'r Efengyl yn y mannau hynny yn unig oedd heb glywed sôn am enw Crist, rhag i mi fod yn adeiladu ar sylfaen rhywun arall;

21. fel y mae'n ysgrifenedig:“Bydd y rheini na chyhoeddwyd dim wrthynt amdano yn gweld,a'r rheini na chlywsant ddim amdano yn deall.”

22. Hwn oedd y rhwystr a'm cadwodd cyhyd o amser rhag dod atoch chwi.

23. Ond yn awr, a minnau heb faes cenhadol mwyach yn yr ardaloedd hyn, a'r awydd arnaf ers blynyddoedd lawer i ddod atoch chwi

24. pryd bynnag y byddaf ar fy ffordd i Sbaen, yr wyf yn gobeithio ymweld â chwi wrth fynd trwodd, a chael fy hebrwng gennych ar fy nhaith yno, ar ôl mwynhau eich cwmni am ychydig.

25. Ond ar hyn o bryd yr wyf ar fy ffordd i Jerwsalem, i fynd â chymorth i'r saint yno.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 15