Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

Paid â Barnu dy Frawd

1. Derbyniwch i'ch plith unrhyw un sy'n wan ei ffydd, ond nid er mwyn codi dadleuon.

2. Y mae gan ambell un ddigon o ffydd i fwyta pob peth, ond y mae un arall, gan fod ei ffydd mor wan, yn bwyta llysiau yn unig.

3. Rhaid i'r sawl sy'n bwyta pob peth beidio â bychanu'r sawl sy'n ymwrthod, a rhaid i'r sawl sy'n ymwrthod beidio â barnu'r sawl sy'n bwyta, oherwydd y mae Duw wedi ei dderbyn.

4. Pwy wyt ti, i fod yn barnu gwas rhywun arall? Gan y Meistr y mae'r hawl i benderfynu a yw rhywun yn sefyll neu'n syrthio. A sefyll a wna, oherwydd y mae'r Meistr yn abl i beri i rywun sefyll.

5. Y mae ambell un yn ystyried un dydd yn well na'r llall, ac un arall yn eu hystyried i gyd yn gyfartal. Rhaid i'r naill a'r llall fod yn gwbl argyhoeddedig yn eu meddyliau eu hunain.

6. Y mae'r sawl sy'n cadw'r dydd yn ei gadw er gogoniant yr Arglwydd; a'r sawl sy'n bwyta pob peth yn gwneud hynny er gogoniant yr Arglwydd, oherwydd y mae'n rhoi diolch i Dduw. Ac y mae'r un sy'n ymwrthod yn ymwrthod er gogoniant yr Arglwydd; y mae'n rhoi diolch i Dduw.

7. Oherwydd nid oes neb ohonom yn byw nac yn marw i ni'n hunain.

8. Os byw yr ydym, i'r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i'r Arglwydd yr ydym yn marw. P'run bynnag ai byw ai marw yr ydym, eiddo'r Arglwydd ydym.

9. Oherwydd pwrpas Crist wrth farw a dod yn fyw oedd bod yn Arglwydd ar y meirw a'r byw.

10. Pam yr wyt ti yn barnu rhywun arall? A thithau, pam yr wyt yn bychanu rhywun arall? Oherwydd bydd rhaid inni bob un sefyll gerbron brawdle Duw.

11. Fel y mae'n ysgrifenedig:“Cyn wired â'm bod i yn fyw, medd yr Arglwydd, i mi y bydd pob glin yn plygu,a phob tafod yn moliannu Duw.”

12. Am hynny, bydd rhaid i bob un ohonom roi cyfrif amdanom ni'n hunain i Dduw.

Paid â Bod yn Achos Cwymp i'th Frawd

13. Felly, peidiwn mwyach â barnu ein gilydd. Yn hytrach, dyfarnwch nad oes neb i roi achlysur i rywun arall gwympo neu faglu.

14. Mi wn i sicrwydd yn yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan ohono'i hun. Ond i rywun sy'n ystyried rhywbeth yn aflan y mae'r peth hwnnw yn aflan.

15. Ac felly, os yw'r math o fwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn achos gofid i arall, nid wyt ti mwyach yn ymddwyn yn ôl gofynion cariad. Paid â dwyn i ddistryw, â'th fwyd, unrhyw un y bu Crist farw drosto.

16. Peidiwch â gadael i'r peth sy'n dda yn eich golwg gael gair drwg.

17. Nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân.

18. Y mae'r sawl sy'n gwasanaethu Crist yn y modd hwn yn dderbyniol gan Dduw ac yn gymeradwy gan bawb.

19. Felly gadewch inni geisio'r pethau sy'n arwain i heddwch, ac yn adeiladu perthynas gadarn â'n gilydd.

20. Peidiwch â thynnu i lawr, o achos bwyd, yr hyn a wnaeth Duw. Y mae pob bwyd yn lân, ond y mae'n beth drwg i rywun fwyta a thrwy hynny beri cwymp i rywun arall.

21. Y peth iawn yw peidio â bwyta cig nac yfed gwin, na gwneud dim a all beri i rywun arall gwympo.

22. Cadw dy ffydd, yn hyn o beth, rhyngot ti a Duw. Dedwydd yw'r sawl nad yw'n ei gollfarnu ei hun yn yr hyn y mae'n ei gymeradwyo.

23. Ond os bydd rhywun, er gwaethaf ei amheuon, yn bwyta pob peth, y mae wedi ei gollfarnu. Oherwydd nid o ffydd y bydd yn gweithredu. Ac y mae popeth nad yw'n tarddu o ffydd yn bechod.