Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 12:7-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Os dawn gweini ydyw, arfer hi i weini. Os addysgu yw dy ddawn, arfer dy ddawn i addysgu, ac os cynghori, i gynghori.

8. Os wyt yn rhannu ag eraill, gwna hynny gyda haelioni; os wyt yn arweinydd, gwna'r gwaith gydag ymroddiad; os wyt yn dangos tosturi, gwna hynny gyda llawenydd.

9. Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.

10. Byddwch wresog yn eich serch at eich gilydd fel cymdeithas. Rhowch y blaen i'ch gilydd mewn parch.

11. Yn ddiorffwys eich ymroddiad, yn frwd eich ysbryd, gwasanaethwch yr Arglwydd.

12. Llawenhewch mewn gobaith. Safwch yn gadarn dan orthrymder. Daliwch ati i weddïo.

13. Cyfrannwch at reidiau'r saint, a byddwch barod eich lletygarwch.

14. Bendithiwch y rhai sy'n eich erlid, bendithiwch heb felltithio byth.

15. Llawenhewch gyda'r rhai sy'n llawenhau, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo.

16. Byddwch yn gytûn ymhlith eich gilydd. Gochelwch feddyliau mawreddog; yn hytrach, rhodiwch gyda'r distadl. Peidiwch â'ch cyfrif eich hunain yn ddoeth.

17. Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb. Bydded eich amcanion yn anrhydeddus yng ngolwg pawb.

18. Os yw'n bosibl, ac os yw'n dibynnu arnoch chwi, daliwch mewn heddwch â phawb.

19. Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”

20. Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 12