Hen Destament

Testament Newydd

Rhufeiniaid 12:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”

20. Yn hytrach, os bydd dy elynion yn newynu, rho fwyd iddynt; os byddant yn sychedu, rho iddynt beth i'w yfed. Os gwnei hyn, byddi'n pentyrru marwor poeth ar eu pennau.

21. Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni.

Darllenwch bennod gyflawn Rhufeiniaid 12