26. Felly y mae Duw wedi eu traddodi i nwydau gwarthus. Y mae eu merched wedi cefnu ar arfer naturiol eu rhyw, ac wedi troi at arferion annaturiol;
27. a'r dynion yr un modd, y maent wedi gadael heibio gyfathrach naturiol â merch, gan losgi yn eu blys am ei gilydd, dynion yn cyflawni bryntni ar ddynion, ac yn derbyn ynddynt eu hunain y tâl anochel am eu camwedd.
28. Am iddynt wrthod cydnabod Duw, y mae Duw wedi eu traddodi i feddwl gwyrdroëdig, i wneud y pethau na ddylid eu gwneud,
29. a hwythau yn gyforiog o bob math o anghyfiawnder a drygioni a thrachwant ac anfadwaith. Y maent yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynnen, cynllwyn a malais.