Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 4:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Am hynny, fy nghyfeillion, anwyliaid yr wyf yn hiraethu amdanynt, fy llawenydd a'm coron, safwch yn gadarn fel hyn yn yr Arglwydd, fy nghyfeillion annwyl.

2. Yr wyf yn annog Euodia, ac yn annog Syntyche, i fyw'n gytûn yn yr Arglwydd.

3. Ac yn wir y mae gennyf gais i tithau, fy nghydymaith cywir dan yr iau: rho dy gymorth i'r gwragedd hyn a gydymdrechodd â mi o blaid yr Efengyl, ynghyd â Clement a'm cydweithwyr eraill, sydd â'u henwau yn llyfr y bywyd.

4. Llawenhewch yn yr Arglwydd bob amser; fe'i dywedaf eto, llawenhewch.

5. Bydded eich hynawsedd yn hysbys i bob dyn. Y mae'r Arglwydd yn agos.

6. Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil, ynghyd â diolchgarwch.

7. A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a'ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

8. Bellach, gyfeillion, beth bynnag sydd yn wir, beth bynnag sydd yn anrhydeddus, beth bynnag sydd yn gyfiawn a phur, beth bynnag sydd yn hawddgar a chanmoladwy, pob rhinwedd a phopeth yn haeddu clod, myfyriwch ar y pethau hyn.

9. Y pethau yr ydych wedi eu dysgu a'u derbyn, eu clywed a'u gweled, ynof fi, gwnewch y rhain; a bydd Duw'r tangnefedd gyda chwi.

10. Y mae'n llawenydd mawr yn yr Arglwydd i mi, fod eich gofal amdanaf yn awr o'r diwedd wedi blaguro eto. O ran hynny, yr oedd y gofal gennych; yr amser cyfaddas oedd yn eisiau.

11. Nid fy mod yn dweud hyn am fod arnaf angen, oherwydd yr wyf fi wedi dysgu bod yn fodlon, beth bynnag fy amgylchiadau.

12. Gwn sut i gymryd fy narostwng, a gwn hefyd sut i fod uwchben fy nigon. Ym mhob rhyw amgylchiadau, yr wyf wedi dysgu'r gyfrinach sut i ddygymod, boed â llawnder neu newyn, â helaethrwydd neu brinder.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 4