Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 3:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Gyfeillion, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio'r hyn sydd o'r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o'r tu blaen,

14. yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu.

15. Pob un ohonom, felly, sydd ymhlith y rhai aeddfed, dyma sut y dylai feddwl. Ond os ydych o wahanol feddwl am rywbeth, fe ddatguddia Duw hyn hefyd ichwi.

16. Ond gadewch inni ymddwyn yn unol â'r safon yr ydym wedi ei chyrraedd.

17. Byddwch yn gydefelychwyr ohonof fi, gyfeillion, a daliwch sylw ar y rhai sy'n byw yn ôl yr esiampl sydd gennych ynom ni.

18. Oherwydd y mae llawer, yr wyf yn fynych wedi sôn wrthych amdanynt, ac yr wyf yn sôn eto yn awr gan wylo, sydd o ran eu ffordd o fyw yn elynion croes Crist.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 3