Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 1:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw.

22. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis.

23. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell;

24. ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi.

25. Rwy'n gwybod hyn i sicrwydd: aros a wnaf, a phara i aros gyda chwi oll, i hyrwyddo eich cynnydd a'ch llawenydd yn y ffydd,

26. er mwyn ichwi ymffrostio fwyfwy, yng Nghrist Iesu, o'm hachos i pan ddof yn ôl atoch.

27. Yn anad dim, bydded eich buchedd yn deilwng o Efengyl Crist, er mwyn imi weld, os dof atoch, neu glywed amdanoch, os byddaf yn absennol, eich bod yn sefyll yn gadarn, yn un o ran ysbryd, gan gydymdrechu yn unfryd dros ffydd yr Efengyl,

28. heb eich dychrynu mewn un dim gan y gwrthwynebwyr. Bydd hyn yn arwydd eglur i'r rheini o'u distryw hwy, ond o'ch iachawdwriaeth chwi, a hynny oddi wrth Dduw.

29. Oherwydd rhoddwyd i chwi y fraint, nid yn unig o gredu yng Nghrist ond hefyd o ddioddef drosto,

30. gan ymdaflu i'r frwydr honno y gwelsoch fi ynddi, ac yr ydych yn awr yn clywed fy mod ynddi o hyd.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 1