Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 1:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw.

22. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis.

23. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell;

24. ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 1