Hen Destament

Testament Newydd

Philipiaid 1:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. oherwydd mi wn mai canlyniad hyn, ar bwys eich gweddi chwi a chymorth Ysbryd Iesu Grist, fydd fy ngwaredigaeth.

20. Am hyn yr wyf yn disgwyl yn eiddgar, gan obeithio na chaf fy nghywilyddio mewn dim, ond y bydd Crist, yn awr fel erioed, trwy fy ngwroldeb i, yn cael ei fawrygu yn fy nghorff i, p'run bynnag ai trwy fy mywyd ai trwy fy marwolaeth.

21. Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw.

22. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny'n golygu y caf ffrwyth o'm llafur. Eto, ni wn beth i'w ddewis.

23. Y mae'n gyfyng arnaf o'r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny'n llawer iawn gwell;

24. ond y mae aros yn fy nghnawd yn fwy angenrheidiol er eich mwyn chwi.

Darllenwch bennod gyflawn Philipiaid 1