Hen Destament

Testament Newydd

Philemon 1:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ie, frawd, mi fynnwn gael ffafr gennyt ti yn yr Arglwydd; llonna fy nghalon i yng Nghrist.

21. Yr wyf yn ysgrifennu atat mewn sicrwydd y byddi'n ufuddhau; gwn y byddi'n gwneud mwy nag yr wyf yn ei ofyn.

22. Yr un pryd hefyd, paratoa lety imi, oherwydd rwy'n gobeithio y caf fy rhoi i chwi mewn ateb i'ch gweddïau.

23. Y mae Epaffras, fy nghydgarcharor yng Nghrist Iesu, yn dy gyfarch;

24. a Marc, Aristarchus, Demas a Luc, fy nghydweithwyr.

25. Gras yr Arglwydd Iesu Grist fyddo gyda'ch ysbryd chwi!

Darllenwch bennod gyflawn Philemon 1