Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 8:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Estynnodd Iesu ei law a chyffwrdd ag ef gan ddweud, “Yr wyf yn mynnu, glanhaer di.” Ac ar unwaith glanhawyd ei wahanglwyf.

4. Meddai Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb, ond dos a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma'r rhodd a orchmynnodd Moses, yn dystiolaeth gyhoeddus.”

5. Ar ôl iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth canwriad ato ac erfyn arno:

6. “Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn y tŷ wedi ei barlysu, mewn poenau enbyd.”

7. Dywedodd Iesu wrtho, “Fe ddof fi i'w iacháu.”

8. Atebodd y canwriad, “Syr, nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho; ond dywed air yn unig, a chaiff fy ngwas ei iacháu.

9. Oherwydd dyn sydd dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, ‘Dos’, ac fe â, ac wrth un arall, ‘Tyrd’, ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, ‘Gwna hyn’, ac fe'i gwna.”

10. Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.

11. Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd.

12. Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.”

13. A dywedodd Iesu wrth y canwriad, “Dos ymaith; boed iti fel y credaist.” Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 8