Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 7:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Peidiwch â rhoi'r hyn sy'n sanctaidd i'r cŵn, na thaflu eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi arnoch a'ch rhwygo.

7. “Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

8. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws.

9. Pwy ohonoch, os bydd ei blentyn yn gofyn am fara, a rydd iddo garreg?

10. Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a rydd iddo sarff?

11. Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i'r rhai sy'n gofyn ganddo!

12. Pa beth bynnag y dymunwch i eraill ei wneud i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; hyn yw'r Gyfraith a'r proffwydi.

13. “Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi.

14. Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael.

15. “Gochelwch rhag gau broffwydi, sy'n dod atoch yng ngwisg defaid, ond sydd o'u mewn yn fleiddiaid rheibus.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 7