Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 7:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Ni all coeden dda ddwyn ffrwyth drwg, na choeden wael ffrwyth da.

19. Y mae pob coeden nad yw'n dwyn ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a'i bwrw i'r tân.

20. Felly, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy.

21. “Nid pawb sy'n dweud wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd’, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.

22. Bydd llawer yn dweud wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni fuom yn proffwydo yn dy enw di, ac yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn dy enw di yn cyflawni gwyrthiau lawer?’

23. Ac yna dywedaf wrthynt yn eu hwynebau, ‘Nid adnabûm erioed mohonoch; ewch ymaith oddi wrthyf, chwi ddrwgweithredwyr.’

24. “Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i un call, a adeiladodd ei dŷ ar y graig.

25. Disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni syrthiodd, am ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig.

26. A phob un sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof a heb eu gwneud, fe'i cyffelybir i un ffôl, a adeiladodd ei dŷ ar y tywod.

27. A disgynnodd y glaw a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a dirfawr oedd ei gwymp.”

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 7