1. Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol.
2. Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd.
3. A daeth y temtiwr a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara.”
4. Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw,ond ar bob gair sy'n dod allano enau Duw.’ ”
5. Yna cymerodd y diafol ef i'r ddinas sanctaidd, a'i osod ar dŵr uchaf y deml,
6. a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Rhydd orchymyn i'w angylion amdanat;byddant yn dy godi ar eu dwylorhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.’ ”
7. Dywedodd Iesu wrtho, “Y mae'n ysgrifenedig drachefn: ‘Paid â gosod yr Arglwydd dy Dduw ar ei brawf.’ ”
8. Unwaith eto cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant,
9. a dweud wrtho, “Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.”
10. Yna dywedodd Iesu wrtho, “Dos ymaith, Satan; oherwydd y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Yr Arglwydd dy Dduw a addoli,ac ef yn unig a wasanaethi.’ ”
11. Yna gadawodd y diafol ef, a daeth angylion a gweini arno.
12. Ar ôl iddo glywed bod Ioan wedi ei garcharu, aeth Iesu ymaith i Galilea.
13. A chan adael Nasareth aeth i fyw i Gapernaum, tref ar lan y môr yng nghyffiniau Sabulon a Nafftali,
14. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy Eseia'r proffwyd:
15. “Gwlad Sabulon a gwlad Nafftali,ar y ffordd i'r môr, tu hwnt i'r Iorddonen, Galilea'r Cenhedloedd;
16. y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwcha welodd oleuni mawr,ac ar drigolion tir cysgod angauy gwawriodd goleuni.”
17. O'r amser hwnnw y dechreuodd Iesu bregethu'r genadwri hon: “Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.”