52. agorwyd y beddau a chyfodwyd cyrff llawer o'r saint oedd wedi huno.
53. Ac ar ôl atgyfodiad Iesu, daethant allan o'u beddau a mynd i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac fe'u gwelwyd gan lawer.
54. Ond pan welodd y canwriad, a'r rhai oedd gydag ef yn gwylio Iesu, y daeargryn a'r cwbl oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnynt a dywedasant, “Yn wir, Mab Duw oedd hwn.”
55. Yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, rhai oedd wedi canlyn Iesu o Galilea i weini arno;
56. yn eu plith yr oedd Mair Magdalen, Mair mam Iago a Joseff, a mam meibion Sebedeus.
57. Pan aeth yn hwyr, daeth dyn cyfoethog o Arimathea o'r enw Joseff, a oedd yntau wedi dod yn ddisgybl i Iesu.
58. Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu; yna gorchmynnodd Pilat ei roi iddo.
59. Cymerodd Joseff y corff a'i amdói mewn lliain glân,
60. a'i osod yn ei fedd newydd ef ei hun, yr oedd wedi ei naddu yn y graig. Yna treiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac aeth ymaith.
61. Ac yr oedd Mair Magdalen a'r Fair arall yno yn eistedd gyferbyn â'r bedd.
62. Trannoeth, y dydd ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a'r Phariseaid ynghyd at Pilat
63. a dweud, “Syr, daeth i'n cof fod y twyllwr yna, pan oedd eto'n fyw, wedi dweud, ‘Ar ôl tridiau fe'm cyfodir.’
64. Felly rho orchymyn i'r bedd gael ei warchod yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag i'w ddisgyblion ddod a'i ladrata a dweud wrth y bobl, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw’, ac felly bod y twyll olaf yn waeth na'r cyntaf.”
65. Dywedodd Pilat wrthynt, “Cymerwch warchodlu; ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch.”
66. Aethant hwythau a diogelu'r bedd trwy selio'r maen, a gosod y gwarchodlu wrth law.