Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 27:22-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. “Barabbas,” meddent hwy. “Beth, ynteu, a wnaf â Iesu a elwir y Meseia?” gofynnodd Pilat iddynt. Atebasant i gyd, “Croeshoelier ef.”

23. “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” meddai yntau. Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelier ef.”

24. Pan welodd Pilat nad oedd dim yn tycio ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr, a golchodd ei ddwylo o flaen y dyrfa, a dweud, “Yr wyf fi'n ddieuog o waed y dyn hwn; chwi fydd yn gyfrifol.”

25. Ac atebodd yr holl bobl, “Boed ei waed arnom ni ac ar ein plant.”

26. Yna rhyddhaodd Pilat iddynt Barabbas, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.

27. Yna cymerodd milwyr y rhaglaw Iesu i'r Praetoriwm a chynnull yr holl fintai o'i gwmpas.

28. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano;

29. plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”

30. Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben.

31. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

32. Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef.

33. Daethant i le a elwir Golgotha, hynny yw, “Lle Penglog”,

34. ac yno rhoesant iddo i'w yfed win wedi ei gymysgu â bustl, ond ar ôl iddo ei brofi, gwrthododd ei yfed.

35. Croeshoeliasant ef, ac yna rhanasant ei ddillad, gan fwrw coelbren,

36. ac eisteddasant yno i'w wylio.

37. Uwch ei ben gosodwyd y cyhuddiad yn ei erbyn mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.”

38. Yna croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, un ar y dde ac un ar y chwith.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 27