Hen Destament

Testament Newydd

Mathew 27:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan ddaeth yn ddydd, cynllwyniodd yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl yn erbyn Iesu i'w roi i farwolaeth.

2. Rhwymasant ef a mynd ag ef ymaith a'i drosglwyddo i Pilat, y rhaglaw.

3. Yna pan welodd Jwdas, ei fradychwr, fod Iesu wedi ei gondemnio, bu'n edifar ganddo ac aeth â'r deg darn arian ar hugain yn ôl at y prif offeiriaid a'r henuriaid.

4. Dywedodd, “Pechais trwy fradychu dyn dieuog.” “Beth yw hynny i ni?” meddent hwy. “Rhyngot ti a hynny.”

5. A thaflodd Jwdas yr arian i lawr yn y deml ac ymadael; aeth ymaith, ac fe'i crogodd ei hun.

6. Wedi iddynt dderbyn yr arian, dywedodd y prif offeiriaid, “Nid yw'n gyfreithlon ei roi yn nhrysorfa'r deml, gan mai pris gwaed ydyw.”

7. Ac wedi ymgynghori, prynasant Faes y Crochenydd â'r arian, fel mynwent i ddieithriaid.

8. Dyna pam y gelwir y maes hwnnw hyd heddiw yn Faes y Gwaed.

9. Felly y cyflawnwyd y gair a lefarwyd trwy Jeremeia'r proffwyd: “Cymerasant y deg darn arian ar hugain, pris y sawl y rhoddodd rhai o blant Israel bris arno,

10. a'u gwario i brynu maes y crochenydd, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.”

11. Safodd Iesu gerbron y rhaglaw; a holodd y rhaglaw ef: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu, “Ti sy'n dweud hynny.”

12. A phan gyhuddwyd ef gan y prif offeiriaid a'r henuriaid, nid atebodd ddim.

13. Yna meddai Pilat wrtho, “Onid wyt yn clywed faint o dystiolaeth y maent yn ei dwyn yn dy erbyn?”

14. Ond ni roes ef iddo ateb i gymaint ag un cyhuddiad, er syndod mawr i'r rhaglaw.

15. Ar yr ŵyl yr oedd y rhaglaw yn arfer rhyddhau i'r dyrfa un carcharor o'u dewis hwy.

16. A'r pryd hwnnw yr oedd carcharor adnabyddus yn y ddalfa, o'r enw Iesu Barabbas.

17. Felly, wedi iddynt ymgynnull, gofynnodd Pilat iddynt, “Pwy a fynnwch i mi ei ryddhau i chwi, Iesu Barabbas ynteu Iesu a elwir y Meseia?”

18. Oherwydd gwyddai mai o genfigen y traddodasant ef.

Darllenwch bennod gyflawn Mathew 27